Mae dadl wedi datblygu dros enw stryd `Ffordd Penrhyn` ar ystâd dai newydd yn y Barri, De Cymru An argument has developed over the street name `Ffordd Penrhyn` on a new housing estate in Barry, South Wales Mae trafodaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn honni bod yr enw er anrhydedd i berchennog caethweision Richard Pennant, y Barwn Penrhyn cyntaf A discussion on social media claims that name is in honour of slave owner Richard Pennant, the first Baron Penrhyn Gwnaeth ei ffortiwn o gaethweision a orfodwyd i weithio ar ei blanhigfeydd siwgr yn Jamaica He made his fortune from slaves forced to work on his sugar plantations in Jamaica Roedd yr arian a wnaed yn hanfodol i`w ddatblygiad o`r chwareli llechi yn Bethesda, ac adeiladu Castell Penrhyn ar gyrion Bangor The money made was crucial to his development of the slate quarries in Bethesda, and the building of Penrhyn Castle on the outskirts of Bangor Mae`r cyngor lleol yn dadlau mai ‘penrhyn’ yw’r gair Cymraeg am ‘peninsula’ a bod y ffordd yn y Barri yn arwain at benrhyn The local council argue that ‘penrhyn’ is the Welsh word for ‘peninsula’ and that the road in Barry leads to a peninsula Mae protestwyr yn dweud bod y cyngor yn annhebyg i gyfaddef i enwi`r stryd ar ôl yr Arglwydd Penrhyn Protesters say it is unlikely that the council would admit to naming the street after Lord Penrhyn Maen nhw`n galw ar Gyngor Bro Morgannwg i newid enw`r ffordd They are calling on the Vale of Glamorgan Council to change the name of the road Awgrymir y byddai newid yr enw i `Ffordd y Penrhyn` yn setlo`r mater It is suggested that changing the name to `Ffordd y Penrhyn` would settle the matter Byddai hyn bellach yn cyfieithu fel `The Peninsula Road` ac yn cyfeirio`n glir at y nodwedd ddaearyddol This would now translate as `The Peninsula Road` and clearly refer to the geographical feature |